Cwdyn bach siâp bys sydd wedi'i gysylltu â'r coluddyn ar ochr dde isaf y bol yw'r pendics (appendix). Llid y pendics (appendicitis) yw pan fydd yn chwyddo ac yn cael ei heintio, yn aml oherwydd bod rhywbeth, fel darn bach o faw caled, yn rhwystro'i agoriad.
Dyma'r achos mwyaf cyffredin o boen bol sydyn sydd angen llawdriniaeth. Gall ddigwydd ar unrhyw oed, ond mae'n fwyaf cyffredin mewn plant dros 10 oed ac oedolion ifanc, ac yn brin mewn babanod dan 12 mis.
Mae llid y pendics yn argyfwng meddygol: heb driniaeth, gall y pendics fyrstio, a gall hynny arwain at haint difrifol y tu mewn i'r bol. O'i drin yn gyflym, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr, a does dim angen eich pendics arnoch chi i aros yn iach.

